GAIN Cymru

Arweinir gan RNIB Cymru

Newyddion

Publication Date: 21/07/06

Adborth positif o seminars GAIN Cymru

"Roedd y seminar yn llwyddiant mawr. Roedd rhan y staff yn y ddadl yn ddefnyddiol iawn ac yn cadw'r meddwl ar a dasg bwysig.  Wrth wylio o'r ochr fe sylweddolais fod pawb yn canolbwyntio ar drafodion y cyfarfod, nid oedd crwydro o'r testun ac mae hyn yn dweud llawer am yr achlysur.  Diolch yn fawr i bawb am drefnu a chynnal y seminar.  O'r adborth a dderbyniwd hyd yn hyn mae'n amlwg fod arian y loteri wedi'i wario'n ddoeth."

"Mae pawb a ddaeth i'r seminar yn gwerthfawrogi'r cyfle.  Rydym eisoes wedi cael ymholiadau ynglŷn â seminars ar faterion anabledd eraill!."

"Roedd pob agwedd o'r seminar yn ddiddorol i'n grŵp ni.  Ni fu'r grŵp a chymaint o ddiddordeb mewn seminar erioed o'r blaen."

"Roedd popeth a ddywedodd yr hyfforddwr o ddiddordeb i'n grŵp ni.  Fel arfer, mae'r aeolodau'n sinigaidd ond, y tro hwn, yr oeddent yn effro ac yn cymryd sylw."

"Fe gyflwynwyd y seminar yn dda iawn.  O ddiddordeb arbennig i ni oedd cyngor yr hyfforddwr ar sut i gynnig gwybodaeth fancio mewn fformatau hygyrch - mae ein staff yn gyfarwydd â'r broblem hon."